STEFFAN EVANS MC, ELERI MORGAN, DAN THOMAS, SION OWENS
Noson o gomedi gyda Steffan Evans MC, Sion Owens, Dan Thomas, Eleri Morgan — an evening of comedy in Welsh with Steffan Evans.
STEFFAN EVANS MC
Dechreuodd Steffan ei yrfa comedi ym mis Tachwedd 2015. Mae’n perfformio mewn nosweithiau meic agored i sesiynau mewn sioeau proffesiynnol ar draws Cymru a thu hwnt.
Bu’n berfformiwr cynorthwyol i Elis James ar ei daith yn 2017. Mae hefyd wedi teithio gyda sioe ar y cyd gyda Drew Taylor a Col Howard, Tales from Wales yn 2016-17. Mae wedi perfformio mewn sawl gŵyl gomedi gan gynnwys, Gwyliau Comedi: Machynlleth Caerdydd (2016), Castell Nedd (2016-17), Caerlŷr (Leicester, 2017), Caerfaddon (2017), Llwydlo (Ludlow, 2017), Merthyr Tudful ac Aberteifi. Mae hefyd wedi perfformio mewn sesiynau comedi, Stand Up For Wales.
“Yn ddig a doniol” — Dolly Chicken
“Bydd deunydd Steffan bownd o daro deuddeg a nifer, ledled y gwlad” — Lowri Haf-Cooke
ELERI MORGAN
Mae Eleri yn comediwraig o ganolbarth Cymru. Mae hi wedi perfformio gigs dros ledled Prydain, gan gynnwys: Gŵyl Caeredyn, Machynlleth a Gŵyl Gomedi Aberystwyth. Chwaraeoció hi’r cymeriad “Gwen” yn y Sitcom Tourist Trap ar BBC One Wales. Roedd hi yn y rownd gynderfynol Funny Women a Digrifwr Newydd y Flwyddyn y BBC 2021. Mae ei chredydau ysgrifennu a pherfformio proffesiynol yn cynnwys (ymysg eraill) The News Quiz & The Now Shows (BBC Radio 4), Ffug yr Wythnos (BBC Un), Atebnôl i Dave Channel ac yn fwyaf diweddar Have I Got News For You (BBC Un). Eleni enillodd y “BBC Comedy Writing Bursary”.
DAN THOMAS
Mae Dan Thomas yn wyneb cyfarwydd ar gylched gomedi’r DU a thu hwnt. Mae e wedi perfformio ledled Ewrop ac wedi ymddangos ar raglenni fel Gwerthu Allan ar S4C a Stand-Yp a Tourist Trap ar BBC 1. Mae e hefyd yn actor ac yn ddiweddar fe ymddangosodd ar y sioeau poblogaidd Keeping Faith, Casualty a The Other Bennett Sister ar BBC1.
SION OWENS
Gwyneb cyfarwydd i’r byd gomedi erbyn hyn, mae Siôn Owens yn llawn straeon am ei helyntion yn tyfu fyny yng Ngaernarfon, a ddim ofn cyfaddef ei fod o’n aml yn neud ffwl o’i hun. Wedi ymddangos ar Gala’r Goreuon (S4C), Vandullz (BBC1) a Fy Nhro Cyntaf (BBC Sounds).
Roedd o’n cyfrannu yn rheolaidd ar gyfer BBC Sesh ac yn 2020 recordiodd y podlediad “Fy Nhro Cyntaf”. Fe berfformiodd fel Gruff yn y gyfres gomedi Vandullz ar gyfer BBC 1 yn 2021.
Sylwch y bydd hwn yn Gymraeg yn UNIG.
Drysau yn agor am 7:30pm ar gyfer dechrau am 8:00pm. Amcangyfrif o’r diwedd: 10:30pm. Bar a 2 Gyfnod Egwyl.
Bydd Cynnwys Oedolion trwy gydol y noson. Tocynnau e-docynnau ydynt a chânt eu danfon i’ch e-bost dynodedig.











